Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Monday 4 June 2012

Dathlu’r Jiwbilî Ddiemwnt, 1897





Stryd Fawr Aberteifi, 1897. Mae plant yn gorymdeithio drwy’r dref i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Victoria.
DI2008_0752   NPRN 33041
Eleni, bydd y Frenhines Elizabeth II yn dathlu ei Jiwbilî Ddiemwnt. Yn ystod penwythnos y Jiwbilî, ar hyd a lled gwledydd Prydain, bu llawer o bobl yn ymuno â’r dathliadau stryd, yn hongian baneri ac yn tanio eu barbeciws i ddathlu trigain mlynedd o’i theyrnasiad.

Ym 1897, bu pobl Aberteifi yn dathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Victoria mewn ffordd gyffelyb drwy gynnal gorymdaith drwy’r dref. Mae’r ffotograffau hyn yn cyfleu ysbryd eu dathliadau: mae baneri’n cwhwfan o’r adeiladau ac ar draws y stryd, mae seindorf yn gorymdeithio, ac mae cannoedd o bobl yn eu gwisg orau yn cerdded ar hyd y ffordd. Y gyntaf o blith brenhinoedd a breninesau Prydain i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt oedd y Frenhines Victoria – dim ond yr ail yw’r Frenhines Elizabeth.

Cafodd y ffotograffau hyn eu hatgynhyrchu o negatifau plât gwydr a roddwyd ar fenthyg i’r Comisiwn Brenhinol gan Thomas Lloyd. Dirywiad y negatifau gwreiddiol sy’n gyfrifol am yr aflunio ar ymylon rhai o’r delweddau. Drwy sganio’r delweddau hyn cyn iddynt ddirywio ymhellach, mae cofnod gwerthfawr o fywyd a digwyddiadau yn Aberteifi yn y gorffennol wedi cael ei ddiogelu i’r cenedlaethau a ddaw.

Mae baneri â delwedd y Frenhines Victoria arnynt yn chwifio uwchben y stryd.
DI2012_0266   NPRN 33041

I ddathlu’r achlysur mae amrywiaeth eang o faneri wedi cael eu codi gan fusnesau lleol, gan gynnwys y banc (chwith) a’r siop siocled (de).
DI2012_0267   NPRN 33041

Mae seindorf yn gorymdeithio i lawr Stryd Fawr Aberteifi, wedi’i dilyn gan dorfeydd o ddathlwyr.
DI2012_0268   NPRN 33041



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails