Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Wednesday 23 May 2012

The Western Brecon Beacons: The Archaeology of Mynydd Du and Fforest Fawr





The Western Brecon Beacons: The Archaeology of Mynydd Du and Fforest Fawr gan David K. Leighton. ISBN 978-1-871184-43-3, 180tt, £14.95 neu £13.50 i Cyfeillion
 “Y Mynydd Du. Fy Nghartre’ Ysbrydol. Mae yn fy enaid.” Roy Noble

Mae arolwg newydd wedi datgelu hanes rhan allweddol o uwchdiroedd Cymru yn ne canolbarth Cymru. Mae rhan orllewinol Bannau Brycheiniog yn ymestyn o Dalsarn yn y gogledd i Benderyn yn y de, ac o Frynaman yn y gorllewin i Heol Senni yn y dwyrain. Yn y 270 o gilometrau sgwâr o dir sy’n ffurfio uwchdiroedd y Mynydd Du a Fforest Fawr ceir olion archaeolegol gwych yn ymwneud ag anheddu, ffermio, claddu, defodau a diwydiant sy’n rhychwantu sawl mileniwm ac sy’n taflu goleuni hynod o bwysig ar sut y bu i genedlaethau o bobl oroesi yn y dirwedd ddi-ildio hon.

Mae cyhoeddiad y Comisiwn Brenhinol, The Western Brecon Beacons: The Archaeology of Mynydd Du and Fforest Fawr gan David Leighton, gyda rhagair gan Roy Noble, cyflwynydd gyda BBC Radio Wales, yn cynnwys mapiau manwl a delweddau o’r dirwedd fynyddig a gweundirol, trysorfa archaeolegol sy’n dangos tystiolaeth o weithgarwch dynol ers diwedd Oes yr Iâ. Y llyfr hwn yw’r diweddaraf yng nghyfres y Comisiwn Brenhinol, Discovering Upland Heritage, sy’n seiliedig ar waith maes ac ymchwil helaeth.

Uwchdiroedd yw rhan sylweddol o dirwedd Cymru. Gall hanner y tir gael ei ddosbarthu’n uwchdirol naill ai oherwydd ei uchder, 800 troedfedd neu 244 metr uwchben lefel y môr, neu oherwydd natur y topograffi. Ond, mor hwyr â’r 1970au, credai pobl yn gyfeiliornus nad oedd dyn wedi gwneud defnydd dwys o fynyddoedd a gweundiroedd Cymru uwchdirol. Mae blynyddoedd o waith maes trylwyr, drwy Fenter Archaeoleg yr Uwchdiroedd y Comisiwn Brenhinol, wedi datgelu cyfoeth archaeolegol yr amgylcheddau hyn o’r diwedd. Sefydlwyd y prosiect oherwydd bygythiadau posibl oddi wrth goedwigaeth, chwarela a thrawsnewid gweundir gyda’r nod dechreuol o gofnodi nodweddion archaeolegol fel rhan o’r broses gynllunio.

Y Comisiwn Brenhinol, a sefydlwyd ym 1908, yw’r corff arolygu a chofnodi cenedlaethol ar gyfer archaeoleg ac adeiladau Cymru. Mae’n gyfrifol am Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, sef yr archif gweledol mwyaf yn y wlad, gyda thros 2 filiwn o ffotograffau a 125,000 o luniadau yn ogystal â llawer o gofnodion eraill.

Deellir y dirwedd yn well erbyn heddiw. Mae’n adrodd hanes pwysigrwydd economaidd yr uwchdiroedd hyn drwy’r newidiadau parhaus mewn amodau cymdeithasol, economaidd a hinsoddol a effeithiodd ar y bobl a fu’n byw yno. O dystiolaeth o symudiadau rhewlifol i gladdfeydd o’r Oes Efydd, ac o ffermydd cwningod mawr i amddiffynfeydd rhag tanciau yn yr Ail Ryfel Byd, mae’r rhanbarth uwchdirol hwn yn cynnig golwg hynod ddiddorol ar genedl a oedd yn esblygu’n barhaus.

Dywed Roy Noble yn ei ragair, “Aberdâr yw fy nghartref bellach, felly rydw i’n dal i fyw i’r gorllewin o’r A470, yr ardal y mae’r llyfr hwn yn ymdrin â hi. Daearyddiaeth oedd fy mhwnc yn y coleg, a hanes yw fy ngwir ddiddordeb, ond synnwyr o le a’r chwedlau sydd ynghlwm wrtho yw’r hyn sy’n tanio fy nychymyg. Mae egni dwfn y lle hwn yn rhoi bywyd arbennig iddo. Mae’n maglu ei feibion a’i ferched.Mae yna gymaint o chwedlau a negeseuon o’r ardal nodedig a chysegredig hon, rhai’n fytholegol, rhai’n hanesyddol, rhai’n hollol bersonol. Mae’r cyfan yn pwysleisio’r symudiad dynol neu’r gweithgarwch llwythol yr ydw i’n ei gysylltu â’r gweundir lledrithiol hwn.”

Gall Cyfeillion brynu copi o’r llyfr hwn gan y Comisiwn Brenhinol am y pris gostyngedig arbennig o £13.50 yn unig gan gynnwys cludiant (yn y DU yn unig) drwy ffonio 01970 621200 neu drwy ein gwefan. Byddwch cystal â nodi ‘Cyfeillion y Comisiwn Brenhinol’ pan roddwch eich archeb.



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails