Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Friday 6 April 2012

Swydd Wag - Arweinydd Tîm Gweithgarwch Prydain oddi Fry





Dyddiad Ago: 5 Ebrill 2012
Dyddiad Cau: 24 Ebrill 2012
Cyflog: £29,651 i £33,500 y flwyddyn.
Lleoliad: Swindon neu Gaeredin
Hyd y cytundeb: 30 misCysylltwch ag: Angharad Williams


Disgrifiad o'r Swydd:
Mae’r rôl hon yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol a phrofiadol ym maes ymgysylltu â’r gymuned weithio mewn ffyrdd arloesol gyda chynulleidfaoedd newydd i ddod â’r casgliad rhyfeddol hwn o luniau yn fyw drwy gyfrwng prosiect Prydain oddi Fry.

Mae Casgliad Aerofilms yn cynnwys dros filiwn o awyrluniau sy’n dyddio o 1919 tan 2006. Fe’i crëwyd gan y cwmni arloesol Aerofilms Cyf, a dyma’r casgliad archifol pwysicaf o’i fath. Ceir ynddo luniau unigryw sy’n dangos sut y newidiodd pryd a gwedd Prydain yn ystod yr 20fed ganrif. Prynwyd y Casgliad gan English Heritage a’i bartneriaid, Comisiynau Brenhinol Henebion Cymru a’r Alban, yn 2007.

Bydd yr Arweinydd Tîm Gweithgarwch yn gyfrifol am reoli a chyflawni llinyn gweithgarwch y prosiect, sy’n cynnwys 16 o brosiectau cymunedol, i ategu rhaglen o wirfoddoli rhithiwr, creu ac ymgorffori adnoddau addysgol o amgylch y Casgliad, a chyflawni rhaglen o gynnal arddangosfeydd.

Cefnogir prosiect Prydain oddi Uchod gan y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri a bydd yn trefnu i ryw 95,000 o luniau o’r Casgliad, sy’n dyddio o 1919 tan 1953, fod yn hygyrch.

I gael holl fanylion y swydd hon, ewch i: http://www.english-heritage.org.uk/about/jobs/job/?ref=3315 Y dyddiad cau i geisiadau: 24/04/2012.



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails