Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Thursday 19 April 2012

Metelau, Mwyngloddiau a Mynyddoedd - Ystrad Meurig






11 a 12 Mai 2012
10:00 – 16:30
Canolfan Cymuned Ystrad Meurig

Dyma ysgol ddeuddydd gyffrous ar archeoleg ddiwydiannol sy’n cynnwys sgyrsiau gan arbenigwyr blaenllaw ynglŷn â’r gwaith diweddar yng Ngheredigion a thu hwnt. Y diwrnod canlynol bydd taith gerdded 6 milltir gydag arweinydd i ymweld â diwydiant ac archeoleg y dirwedd leol.

Ers dau ddegawd a rhagor bu Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gwneud gwaith arolwg archeolegol ar draws mynyddoedd a rhostiroedd Cymru yn rhan o Fentr Archeoleg yr Ucheldiroedd. O’r herwydd, fe ymddangosodd ddarlun newydd o fywyd yn yr ardaloedd mynydd ac fe ddarganfuwyd treflannau gwag, ffermydd, safleoedd defodau a gwaith diwydiannol. Mae’r rhain yn rhoi golwg newydd ar fywydau ein cyndeidiau a fu yma’n llunio’r dirwedd hon dros filoedd o flynyddoedd.

Eleni, bydd Cysylltiadau Metel, prosiect newydd a ariannwyd gan Ewrop, hwythau’n dechrau edrych ymhellach ar dirwedd ddiwydiannol y tiroedd mynydd. Bydd y cynllun hwn yn canolbwyntio ar ddarganfod hanes ac adrodd stori'r diwydiannau mwyngloddio metel yng Nghymru a’r Iwerddon.

Yn yr ysgol deuddydd Metalau, Mwyngloddiau a Mynyddoedd, ceir sgyrsiau gan archeolegwyr blaenllaw ac arbenigwyr lleol o Gymru a’r tu hwnt ar yr ymchwil diweddar mewn archeoleg ddiwydiannol, gan gynnwys rhai astudiaethau lleol o Geredigion. Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn cynnwys cyfres o sgyrsiau ar y dydd Gwener ac yna taith o 6 milltir gydag arweinydd o amgylch tirwedd hanesyddol Trefeurig (SN 680 840), gan ymweld â mwyngloddiau a bryngeyrydd ar y dydd Sadwrn a gan gychwyn am 10:00.

Cost y digwyddiad hwn fydd £5 sy’n cynnwys cinio a lluniaeth ar y dydd Gwener. Cofiwch ddod â phecyn bwyd a dillad ac esgidiau addas os ydych chi’n dymuno mynd ar y daith gerdded ar y dydd Sadwrn.

Mae archebu lle yn angenrheidiol. Ceir manylion yn www.cbhc.gov.uk

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails